(Welsh Haka in Welsh - English version here http://americymru.ning.com/video/the-welsh-haka-bethesda-v )
Bethesda 17 Caerdydd 55
20/12/2008
Diwrnod anfarwol i hogia' Pesda wrth iddynt wynebu clwb y Brifddinas ar Dôl Ddafydd.
Dechreuwyd y gweithgareddau efo arddangosfa gan chwaraewyr mini y clwb. Diddorwyd y dorf gan Seindorf Llanrug a chafwyd haka Gymraeg gan Bill Huaki cyn y chwib gyntaf.
Er nad oedd disgwyl i'r clwb lleol ennill yr erbyn y tim rhan broffesiynnol, llwyddwyd i sgorio 3 chais yn eu herbyn.
Rhyng-gipiodd Mathew Parry y bêl rhwng 2 ganolwr Caerdydd i sgorio rhwng y pyst gan wneud y trosiad yn un hawdd iddo'i hun. Rhedodd Martyn Williams 60 metr ar hyd yr asgell i sgorio'r ail ac roedd yr un olaf gan Steven Roberts yn un i'w gofio. Dwynodd James Roberts y bêl oddi ar flaenwyr Caerdydd a daliodd Paul Thomas y bêl yn ddigon hir i ryddhau Steve Roberts. Ochr gamodd y bachwr gefnwr Caerdydd i sgorio cais rhyfeddol.
Er i'r ymwelwyr sgorio 9 cais yn eu herbyn, diwrnod i'r tim lleol oedd hwn. Diwrnod a gaiff ei gofio am flynyddoedd i ddod - diolch i'r chwaraewyr, hyfforddwyr, merched y bwyd, y cefnogwyr a'r swyddogion sydd wedi rhoi oriau o waith am ddim i hyrwyddo rygbi cymunedol.
Rating: 
Tags: bethesda, caerdydd, cardiff, haka, rugby
Views: 63
Favorite of 1 person
Location: bethesda, wales (Show Map)
Comment
|
To make a donation for the Left Coast Eisteddfod 2010 please use the Paypal button above. Please email us at:- americymru@gmail if you wish to enquire about sponsorship opportunities. |
Posted by Ceri Shaw on December 11, 2009 at 5:30pm
Posted by Ceri Shaw on December 11, 2009 at 4:00pm
Posted by Ceri Shaw on December 9, 2009 at 9:30am
© 2009 Created by Ceri Shaw on Ning. Create a Ning Network!
You need to be a member of Americymru to add comments!
Join this Ning Network